Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ymateb ymhellach i’w chwyn a wnaeth yn mis Mehefin 2025.
Er nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mrs B ar adeg ei chwyn i’r swyddfa hon, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud hynny wedyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 3 wythnos, ymddiheuro a rhoi esboniad i Mrs B am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, a chynnig iawndal o £75 i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.