Cwynodd Mrs H fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i’w chwyn a wnaeth ym mis Mai 2025.
Er nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mrs H ar adeg ei chwyn i’r swyddfa hon, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud hynny wedyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs H. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 3 wythnos, ymddiheuro a rhoi esboniad i Mrs H am yr oedi, a chynnig iawndal o £75 i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.