Cwynodd Mr X fod Cyngor Sir Powys wedi methu ymateb i gŵyn yr oedd wedi ei huwchgyfeirio ato ym mis Rhagfyr 2024 ynghylch trwydded ar gyfer llwybr beicio a llwybr troed.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu cofnodi cwyn Mr X yn briodol drwy ei weithdrefn gwynion gorfforaethol, a hynny er bod Mr X wedi gofyn am ymateb drwy gydol 2025. Bu oedi sylweddol wrth ymateb i’w gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X a phenderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro am fethu cofnodi cwyn Mr X yn briodol, rhoi esboniad am y methiant hwn, cyhoeddi ymateb Cam 2 llawn a therfynol i’r gŵyn, a chynnig iawndal o £100 i Mr X o fewn 2 wythnos. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.