Cwynodd Mrs X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi methu rhoi darpariaeth addysgol briodol i’w mab. Dywedodd fod hyn wedi arwain at fylchau sylweddol yn ei addysg ac wedi effeithio ar ei les emosiynol a’i ddatblygiad cymdeithasol.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs X, ond roedd hi’n pryderu nad oedd yr ymateb hwnnw’n mynd i’r afael â holl bryderon Mrs X. O ganlyniad, penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gysylltu â Mrs X o fewn 3 wythnos i drefnu cyfarfod i drafod pob agwedd ar ei chwyn. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.