Dyddiad yr Adroddiad

08/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202507401

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod atgyfeirio ei merch am asesiad niwro-ddatblygiadol ar y sail na fyddai’n cael ei gweld cyn iddi droi’n 18 oed, ac ar ôl hynny byddai angen iddi gael ei gweld, a hithau’n oedolyn, gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cymorth priodol i ferch Mrs A.

Gan hynny, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn wythnos i lythyr y penderfyniad, gysylltu â Mrs A i’w galluogi i rannu profiadau’r teulu. O fewn 4 wythnos i lythyr y penderfyniad, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd roi cymorth i ferch Mrs A yn y cyfnod cyn y gallai hi gael cymorth gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.