Cwynodd Mr A am y ffordd yr oedd Cyngor Caerdydd wedi trin ei gais am le croesi i gerbyd y tu allan i’w gartref. Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo’r cais yn ysgrifenedig, ond ddyddiau’n ddiweddarach, roedd wedi gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw, heb rybudd, ar seiliau a oedd eisoes yn hysbys ar adeg yr arolygiad a gynhaliwyd ar y safle. Cwynodd Mr A i’r Cyngor ond ni chafodd ymateb i’r gŵyn.
Er bod y Cyngor wedi cydnabod ac ystyried cwyn Mr A, canfu’r Ombwdsmon fod y gŵyn wedi’i chau heb roi gwybod i Mr A ac heb i’r Cyngor ymateb i’r gŵyn. Achosodd methiant y Cyngor i ymateb i’w bryderon anghyfleustra i Mr A, ac achosodd hynny straen, pryder a rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn 4 wythnos, roi ymateb ysgrifenedig i Mr A i’w gwynion, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi wrth fynd i’r afael â’i bryderon. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.