Dyddiad yr Adroddiad

08/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507139

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Ebrill 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi ymateb i gŵyn i Mrs X a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos, a’r ymateb hwnnw’n cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi ynghyd â chynnig o iawndal o £150 i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.