Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwrthod uwchgyfeirio ei chwyn am y gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â’i diweddar ŵr.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod uwchgyfeirio cwyn Mrs A i Gam 2 y broses gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mrs A yn ymddiheuro am y diofalwch hwn ac yn cadarnhau bod ei chwyn wedi’i huwchgyfeirio i Gam 2, gan gynnwys esbonio’r camau nesaf o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.