Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael ymateb gan Gyngor Abertawe mewn perthynas â chwyn a wnaeth am groesfan y tu allan i’w gartref a oedd yn effeithio ar y gallu i barcio.
Er bod rhan o’r gŵyn yn ymwneud â materion a fu’n destun cwynion o’r blaen, a bod y Cyngor wedi ymateb i’r rheini, penderfynodd yr Ombwdsmon fod rhai o’r materion a godwyd yn ymddangos fel pryderon newydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu o fewn mis at Mr A, yn ymddiheuro am beidio ag ymateb i’w gŵyn, yn egluro pa faterion a godwyd nad oedd yn gallu edrych arnynt eto, ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion nad oedd wedi’u datrys. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.