Dyddiad yr Adroddiad

13/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505506

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad yw wedi cael ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn perthynas â digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drist iawn ei fab.

Er y bu rhywfaint o oedi a oedd y tu hwnt i reolaeth y Bwrdd Iechyd, penderfynodd yr Ombwdsmon fod y rhain wedi’u datrys ac roedd yn rhaid rhoi diweddariad ac amserlen i Mr A ynghylch pryd y byddai’n cael yr adroddiad. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr A am gynnydd yr ymchwiliad o fewn mis, ac y byddai’r ymchwiliad yn cael ei rannu â Mr A erbyn diwedd mis Chwefror 2026. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.