Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505444

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mab gan adran ddermatoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn benodol, dywedodd Mrs A fod yr adran wedi methu rhoi triniaeth effeithiol, wedi diystyru ei phryderon, ac wedi rhyddhau ei mab o’r gwasanaeth heb rybudd nac adolygiad.

Canfu’r Ombwdsmon fod mab Mrs A wedi cael cyngor i barhau â’r driniaeth bresennol (Doxycycline) am 12 mis arall, er ei fod eisoes wedi defnyddio’r feddyginiaeth am tua 2 flynedd heb iddi gael effaith. Roedd y rhesymau dros hyn yn aneglur. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried yn ddigonol yr wybodaeth a geir yn yr atgyfeiriad na chais Mrs A i ystyried triniaeth amgen. Roedd mab Mrs A wedi cael ei ryddhau o’r gwasanaeth heb rybudd ac fe’i cynghorwyd i ymgynghori â’r meddyg teulu er mwyn cael atgyfeiriad arall. Achosodd gweithredoedd y Bwrdd Iechyd anghyfleustra i Mrs A a’i mab, ac mae hyn wedi eu gwneud yn rhwystredig.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i ailystyried y gŵyn, gan roi sylw i’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr atgyfeiriadau, a rhoi ymateb pellach i’r gŵyn i Mrs A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ystyried a ellid cynnig apwyntiad pellach gyda’r adran ddermatoleg.