Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505384

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C y bu oedi y gellid bod wedi’i osgoi cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gynnig llawdriniaeth ar gyfer prolaps y bledren.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y penderfyniadau clinigol yn gyson â’r canllawiau cenedlaethol. Fodd bynnag, gwnaed camgymeriadau wrth drefnu apwyntiadau ac ni ymgynghorwyd â Ms C pan drosglwyddwyd ei gofal i feddyg gwahanol. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Ms C o fewn 4 wythnos i ymddiheuro am beidio ag ymgynghori â hi cyn gwneud penderfyniadau am ei gofal a’i thriniaeth, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am ei adolygiad o’r broses ar gyfer trefnu apwyntiadau. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i sicrhau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r canllawiau ar gyfer dod â pherthynas broffesiynol i ben, a’i fod yn dilyn y canllawiau hynny.