Dyddiad yr Adroddiad

19/01/2026

Achos yn Erbyn

Caredig

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202505378

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Caredig (“y Gymdeithas Dai”) wedi methu mynd i’r afael â diffyg atgyweirio yn ei heiddo.

Er i’r Gymdeithas Dai roi gwybod bod rhywfaint o waith wedi’i wneud, roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod Ms A wedi rhoi gwybod am ddiffyg gwaith atgyweirio o hyd, a’i bod yn dal yn anfodlon.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai wneud y canlynol, a chytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hynny:

  • o fewn 2 wythnos – penodi syrfëwr annibynnol,
  • o fewn 4 wythnos – cynnal arolwg annibynnol o’r adeilad gyda’r bwriad o ystyried y pryderon a ganfuwyd yn flaenorol, a’r pryderon a godwyd gan Ms A yn ei neges e-bost ddiweddar, ac
  • o fewn 6 wythnos – rhannu’r canfyddiadau â Ms A a chytuno i gyflawni’r holl waith rhesymol a fyddai’n cael ei argymell.