Cwynodd Mr B, drwy eiriolwr, am ddiffyg ymatebion i gwynion ac am wahanol agweddau ar y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w wraig, Mrs B, gan Bractis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mr B wedi cael ymateb llawn i’w gwynion a wnaed ym mis Ionawr a mis Gorffennaf 2025, ac roedd hynny’n anghyfiawnder iddo. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis, a gytunodd i gymryd y camau canlynol i ddatrys y gŵyn.
Cytunodd y Practis, o fewn 4 wythnos, ac yn unol â threfniadau Gweithio i Wella, y byddai’n ymchwilio ac yn ymateb yn llawn ac yn glir i’r pryderon a godwyd gan Mr B am y Practis. Cytunodd y Practis y byddai’n esbonio’r canfyddiadau a’r canlyniadau mewn ffordd a fyddai’n ddealladwy i rywun cyffredin. Gan hynny, penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.