Dyddiad yr Adroddiad

20/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202504920

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod ei le ar y rhestr aros am lawdriniaeth wedi’i ailosod pan aildrefnodd apwyntiad.
Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod y gallai’r iaith a ddefnyddiwyd yn yr ymateb i’r gŵyn fod wedi arwain at ddryswch. Fodd bynnag, gan fod Mr A wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw o’i anallu i fynd i apwyntiad y cytunwyd arno ar y cyd, roedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried hyn yn achos o ‘fethu bod yn bresennol’. Yn unol â’r Rheolau Diwygiedig ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth ar gyfer Gweithredu Fesul Cam, Ebrill 2017 (“y Rheolau”), roedd gan y Bwrdd Iechyd hawl i ailosod lle Mr A ar y rhestr aros. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi egluro hyn i Mr A wrth aildrefnu ei apwyntiad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, ymddiheuro i Mr A am beidio ag egluro bod ei le wedi’i ailosod wrth aildrefnu ei apwyntiad, a sicrhau bod pob claf yn cael gwybod os bydd eu llefydd yn cael eu hailosod ar restrau aros yn y dyfodol, yn unol â’r Canllawiau ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, sydd bellach mewn grym. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.