Cwynodd Ms B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr fel claf mewnol ym mis Chwefror 2025, ac yn enwedig y modd y rheolwyd ei feddyginiaeth.
Canfu’r asesiad nad oedd yr ymateb i’r gŵyn wedi mynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd na’r atebolrwydd cymwys, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 2 fis, ymateb yn llawn i’r pryderon a oedd gan Ms B o hyd, gan gynnwys pryderon am atebolrwydd cymwys, ynghyd ag ymddiheuro am beidio â gwneud hynny eisoes. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.