Cwynodd Ms A am y modd y cyfathrebodd y Bwrdd Iechyd â hi ynghylch llawdriniaeth ar ei hysgwydd. Dywedodd mai dim ond yn ddiweddarach y dywedwyd wrthi ei bod wedi cael twll yn ei hysgyfaint.
O’r wybodaeth a ystyriwyd yn ystod yr asesiad, nid oedd yn ymddangos bod Ms A wedi cael twll yn ei hysgyfaint. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai’r modd y cyfathrebodd y Bwrdd Iechyd â Ms A fod wedi bod yn gliriach. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd gymryd y camau canlynol o fewn 3 mis, a chytunodd i wneud hynny:
– Trefnu cyfarfod â Ms A a’i heiriolwr a’i chlinigwyr perthnasol i esbonio’r hyn a ddigwyddodd yn ystod ac ar ôl y llawdriniaeth ar ei hysgwydd.