Cwynodd Ms X fod y Practis wedi gwrthod ei chais am ymweliad â’r cartref i gynnal prawf gwaed. Dywedodd fod y Practis wedi methu ystyried sut yr oedd ei hiechyd meddwl yn cyfyngu ar ei gallu i adael ei chartref. O ganlyniad, dywedodd nad oedd y Practis wedi gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ei hanghenion.
Canfu’r Ombwdsmon fod prawf gwaed Ms X yn arferol ac y gallai’n rhesymol fynd i apwyntiad ar ddyddiad diweddarach. Ar ôl i Ms X ddatgelu ei hanawsterau iechyd meddwl a’i hanallu i adael ei chartref, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Practis wedi ystyried a fyddai hi wedi bod o dan anfantais sylweddol, nac wedi ystyried a oedd angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol. At hynny, honnodd y Practis mai dim ond â chleifion sy’n ‘gaeth i’r tŷ’ y bydd nyrsys cymunedol yn ymweld, ond roedd yr honiad hwnnw’n anghyson â’r wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan y Practis. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis wneud y canlynol o fewn 4 mis, a chytunodd y Practis i wneud hynny: (1) atgoffa staff y gellir atgyfeirio cleifion at nyrs gymunedol os nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi; a (2) adolygu pryderon Ms X er mwyn penderfynu a fyddai hi o dan anfantais sylweddol a chanfod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i leihau unrhyw rwystrau iddi rhag defnyddio gwasanaethau.