Dyddiad yr Adroddiad

20/01/2026

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202502980

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y dannedd gosod a roddwyd i Mr A yn glinigol briodol, gan gynnwys y cyngor a roddwyd am eu hirhoedledd. Y canlyniad yr oedd Mr A ei eisiau oedd cael ad-daliad am gost y dannedd gosod.

Cytunodd y Practis Deintyddol, fel rhan o setliad, i ad-dalu’r swm o £260 i Mr A am y driniaeth ddeintyddol a roddodd yn 2025, a oedd yn cynnwys cost y dannedd gosod. Dywedodd hefyd, fel rhan o wersi ehangach i’w dysgu, y byddai’r Practis Deintyddol yn rhannu’r pwyntiau i’w dysgu â’r Deintydd perthnasol.