Dyddiad yr Adroddiad

27/01/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202501295

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Powys wedi methu ymateb i’r gŵyn ynghylch yr amser a gymerodd i gynnal y cyfarfod amlasiantaethol.

Er bod y Cyngor wedi rhoi esboniadau ynghylch pryderon eraill, canfu’r Ombwdsmon nad yw’r Cyngor wedi rhoi sylw i’r oedi a fu wrth gynnal y cyfarfod amlasiantaethol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A, a phenderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gynnal adolygiad o broses Adran 5 a rhoi canlyniad y broses honno i’r achwynydd o fewn 2 wythnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.