Dyddiad yr Adroddiad

19/01/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202500626

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms L am sut ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i alwad frys gan ei diweddar fam, Mrs F. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar ganfod a oedd yr alwad frys wedi’i brysbennu’n briodol ac yn rhesymol, ac a oedd y broses a ddilynwyd i uwchraddio lefel blaenoriaeth yr alwad, yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i gysylltu â hi dros y ffôn, yn briodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod galwad frys Mrs F wedi’i brysbennu’n briodol ac er y gwnaed camgymeriad wrth godio’r alwad, roedd y flaenoriaeth gyffredinol yn gywir. Golygai hynny nad oedd unrhyw effaith ar amser ymateb cyffredinol yr ambiwlans. Ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y broses a ddilynwyd i uwchraddio lefel blaenoriaeth galwad Mrs F, yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i gysylltu â hi dros y ffôn, wedi’i rheoli yn unol â gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mrs F, a chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.

Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth argymhellion yr Ombwdsmon, sef ei bod yn ymddiheuro i Ms L am y diffygion a ganfuwyd ac yn atgoffa staff i ddarparu dogfennaeth gadarn wrth benderfynu a ddylid uwchraddio galwad ai peidio.