Dyddiad yr Adroddiad

20/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202410251

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y modd y gofalodd y Bwrdd Iechyd am ei brawd, Mr B, ac am y modd y cafodd ei reoli. Fe wnaethom ymchwilio i’w phryderon am ba mor briodol y rheolwyd Mr B yn glinigol rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2023. Fe wnaethom hefyd ymchwilio i ganfod a ellid bod wedi rhoi’r diagnosis o ganser a gafodd Mr B ym mis Mai 2024 yn gynharach. Yn olaf, fe wnaethom ymchwilio i bryder Mrs A bod anghywirdebau ffeithiol wedi tanseilio ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn.

Er bod Mr B wedi’i weld o fewn amserlen briodol ar ôl cael atgyfeiriad deintyddol ym mis Ionawr 2023, canfu’r ymchwiliad nad oedd y penderfyniad i’w dynnu o’r llwybr canser yn ei apwyntiad ym mis Chwefror 2023 yn briodol. Arweiniodd hyn at oedi cyn cynnal biopsi, rhoi diagnosis a dechrau triniaeth ar gyfer canser Mr B. Roedd hyn yn fethiant yn y gwasanaeth. Hyd yn oed ac ystyried yr oedi wrth gadarnhau diagnosis Mr B o ganser y geg, byddai Mr B wedi cael ei reoli yn yr un ffordd ac wedi cael yr un driniaeth, hyd yn oed pe bai’r diagnosis wedi’i roi’n gynharach. Ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Mewn perthynas â’r pryder ynghylch a allai diagnosis Mr B o ganser ym mis Mai 2024 fod wedi cael ei roi’n gynharach, canfu’r ymchwiliad fod y modd y rheolodd y Bwrdd Iechyd nodwl ysgyfaint amhenodol yn ystod sgan camau CT ym mis Mai 2023 yn briodol, a bod y modd y rheolwyd Mr B mewn apwyntiad gyda thîm yr ên a’r wyneb ym mis Chwefror 2024 yn briodol, yn dilyn atgyfeiriad gan feddyg teulu ar ôl canfod anafod newydd ar flaen tafod Mr B.

Canfu’r ymchwiliad fod elfennau o’r gwaith rheoli clinigol a wnaed mewn apwyntiad rhiwmatoleg ym mis Ebrill 2024, er mwyn ymchwilio i achos poen cefn Mr B, yn briodol. Serch hynny, canfu’r ymchwiliad hefyd fod nifer o ddangosyddion baner goch a ddylai, gyda’i gilydd, fod wedi arwain at asesiad pellach o symptomau Mr B. Roedd hyn yn fethiant yn y gwasanaeth. Er gwaethaf hyn, ni fyddai canfod anafod ysgyfaint a chlefyd metastatig Mr B yn gynharach wedi newid trywydd canser Mr B, wedi newid y dull o’i reoli, nac wedi arwain at driniaeth bellach neu wahanol. Ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Canfuwyd nifer o anghywirdebau ffeithiol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a’r rheini’n arwyddocaol. Yn eu plith roedd gwybodaeth am y modd y rheolwyd claf arall. Roedd hyn yn achos o gamweinyddu. Achosodd hyn anghyfiawnder i Mrs A a gollodd ymddiriedaeth yn ymchwiliad y Bwrdd Iechyd a’i ymateb i’w chwyn, a dioddefodd ofid ychwanegol oherwydd cyfres o gamgymeriadau a wnaeth iddi deimlo, gyda chyfiawnhad, nad oedd bywyd ei brawd yn bwysig. Cadarnhawyd y gŵyn hon.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau wrth ymdrin â’i chwyn, gan gydnabod y gofid a achosodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i adolygu’r broses gwyno bresennol i wirio bod honno’n ddigon cadarn i sicrhau na all manylion am gwynion digyswllt gael eu huwchlwytho na’u cadw. Cytunodd hefyd i adolygu’r broses sicrhau ansawdd mewn perthynas â chywirdeb ffeithiol ymatebion i gwynion.