Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn a gyflwynwyd gan Mr A ar ran ei dad, Mr H, ynghylch a oedd hi’n briodol rhoi’r gorau i fonitro a rhoi triniaeth i Mr H ar 8 Rhagfyr 2023, ac ar ôl cytuno i ailddechrau rhoi triniaeth iddo, a fu oedi cyn i’r driniaeth honno ddechrau. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a gafodd Mr H ofal a thriniaeth briodol mewn perthynas â chyfanrwydd y croen cyn cael ei dderbyn i ward ar 11 Rhagfyr.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mr A. Er i’r ymchwiliad ganfod rhai problemau yn y ffordd y cafodd teulu Mr H wybod am benderfyniadau, canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i roi’r gorau i fonitro a rhoi triniaeth i Mr H yn briodol. Canfuwyd hefyd, gan fod Mr H wedi gwella ac yn ddigon da i gael ei ryddhau o’r ysbyty, nad oedd unrhyw oedi wrth ailddechrau rhoi’r driniaeth wedi cael effaith negyddol ar Mr H.
Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y gofal a gafodd Mr H mewn perthynas â chyfanrwydd y croen o safon briodol.
Fodd bynnag, gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i ystyried pwyntiau i’w dysgu ynghylch canllawiau ‘r Cyngor Meddygol Cyffredinol (“GMC”) ar gyfer cyfathrebu ag aelodau o deulu claf wrth wneud penderfyniadau dros glaf sydd â diffyg galluedd. Gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynghori staff i gofnodi’r union amser pan gaiff meddyginiaeth ei rhoi.