Honnwyd y gallai’r Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Brymbo (“y Cyngor Cymuned”) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) fod wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”), ynghylch ei ymddygiad tuag at weithwyr yr Eglwys yng Nghymru, ac yn benodol, yn ystod cyfarfod safle mewn hen eglwys ac mewn cyfarfod cyhoeddus wedi hynny.
Dechreuodd Swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(b) (parch ac ystyriaeth), 4(c) (bwlio ac aflonyddu), 6(1)(a) (anfri) a 7(a) (camddefnyddio sefyllfa) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan yr Eglwys yng Nghymru, y Cyngor Cymuned a’r Cyngor. Cafodd yr Achwynydd a thyst eu cyfweld. Roedd yr Aelod a thyst allweddol hefyd wedi darparu gwybodaeth gyfyngedig.
O ran y cyfarfod safle, canfu’r ymchwiliad fod y rhai a oedd yno wedi darparu disgrifiadau gwahanol o’r hyn a ddigwyddodd. Yn ogystal, roedd y tyst allweddol yn amharod i ddarparu tystiolaeth. Er i ymdrechion gael eu gwneud i ymgysylltu â’r tyst allweddol er mwyn deall yn llawn beth oedd wedi digwydd, a beth oedd effaith y digwyddiad, nid oeddem yn gallu cael ei ddisgrifiad uniongyrchol. O ran yr honiadau am y cyfarfod cymunedol, canfu’r ymchwiliad na ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i gadarnhau’r honiadau.
Gan ystyried y gwahanol ddisgrifiadau a ddarparwyd, a diffyg unrhyw dystiolaeth uniongyrchol neu ategol arall gan y tyst allweddol a fyddai’n ategu’r honiadau, neu’n gwrth-ddweud yr hyn a ddywedodd yr Aelod, nid oedd yn bosib cysoni’r gwahaniaethau yn y disgrifiadau a ddarparwyd mewn ffordd a fyddai’n caniatáu i’r Swyddfa hon ddod i farn gytbwys am yr hyn a ddigwyddodd.
Felly, nid oedd yn bosib dod i benderfyniad ynghylch yr honiadau, hyd yn oed gydag ymchwiliad pellach, ynghylch a oedd y paragraffau uchod o’r Cod wedi cael eu torri gan yr Aelod. Felly, nid oedd parhau â’r ymchwiliad yn gymesur nac er budd y cyhoedd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd. Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.