Dyddiad yr Adroddiad

26/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref y Fenni

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202401088

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Honnodd cyd-gynghorydd ar Gyngor Tref y Fenni (“y Cyngor”) fod y Cyn-aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol yng Nghymru (“y Cod”).  Roedd hyn yn deillio o bryderon ei fod yn destun ymchwiliad, ac wedyn wedi cael ei erlyn, gan yr Heddlu am aflonyddu honedig (heb drais) ar blentyn benywaidd dan oed.  Nid oedd hyn wedi digwydd pan oedd y Cyn-aelod yn gweithredu fel cynghorydd, ond yn hytrach ym mywyd preifat y Cyn-aelod.

Fe wnaethom benderfynu ei bod yn briodol ymchwilio i weld a oedd yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ystyried ei bod yn dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd, neu ar ei gyngor, yn groes i baragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Fe wnaethom gasglu gwybodaeth gan: yr Heddlu; Cyngor Sir Fynwy; y Clerc; a chasglu erthyglau yn y wasg a oedd yn adrodd ar y treial a sylwadau’r Barnwr.  Cafwyd y Cyn-aelod yn ddieuog yn y treial.  Fodd bynnag, eglurodd y Barnwr nad oedd ymddygiad y Cyn-aelod yn briodol.

Cyn trefnu cyfweliad â’r Cyn-aelod am y mater, gwelsom fod y Cyn-aelod wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Cyngor, ac o gyngor cymuned lle’r oedd hefyd yn aelod, oherwydd nad oedd wedi mynychu cyfarfodydd y cyngor am gyfnod o 6 mis.  Yn ogystal, roedd yn amlwg bod yr Aelod yn dioddef o bryderon iechyd.

Fe wnaethom ystyried yn ofalus pa mor briodol oedd parhau â’n hymchwiliad, gan ddefnyddio ein prawf budd y cyhoedd.  Yn holl amgylchiadau penodol yr achos, fe wnaethom benderfynu nad oedd yn gymesur mwyach ac er budd y cyhoedd i barhau â’n hymchwiliad, pan nad yw bellach yn aelod.

Roedd yn iawn er hynny fod yr achwynydd wedi dod â’r pryderon difrifol i ni, ac fe wnaethom egluro i’r Cyn-aelod y byddem, pe bai’n dychwelyd at wleidyddiaeth leol yn y dyfodol, ac os bydd pryderon tebyg am ymddygiad amhriodol yn cael eu cyfeirio atom, yn ystyried ymhellach faterion y gŵyn hon sydd bellach sydd wedi dod i ben.