Dyddiad yr Adroddiad

22/12/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202508038

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi methu ag uwchgyfeirio nac ymateb i’w phryderon am wrthodiad y Cyngor i neilltuo cymorth yn dilyn atgyfeiriad am becyn cydlynu gofal.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi ymateb i Miss A, ond wedi methu cofnodi ei phryderon fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss A i ymddiheuro am y methiant i gofnodi ei phryderon, ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn 3 wythnos.