Dyddiad yr Adroddiad

17/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202507529

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A na wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb i’w chŵyn ynglŷn â’r driniaeth a’r gofal a gafodd ei diweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon fod Miss A wedi cwyno 10 mis yn ôl ac nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’r gŵyn gan y Bwrdd Iechyd o hyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi gadael Miss A gyda llawer o gwestiynau heb eu hateb, a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac i esbonio’r rhesymau am yr oedi, yn ogystal â chyhoeddi ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 7 wythnos.