Cwynodd Miss B am yr oedi cyn i Tai Tarian ymateb i’w hadroddiadau am foeler yn gollwng a phroblemau eraill yn yr eiddo. Cwynodd Miss B hefyd am yr oedi cyn cael ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas wedi methu cofnodi pryderon Miss B fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i wneud y trefniadau angenrheidiol i fynd i’r eiddo er mwyn asesu’r materion yr adroddwyd amdanynt, a hynny o fewn 2 ddiwrnod gwaith. O fewn pythefnos, dylid ysgrifennu at Miss B i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’w phryderon, llunio rhestr derfynol o’r gwaith trwsio sydd heb ei wneud a phryd bydd y gwaith trwsio’n cael ei wneud, a chyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1.