Cwynodd Miss F fod Cyngor Caerdydd wedi methu â mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd ynghylch cynnal a chadw’r ardal gyfagos i’w chartref, sef bod yr ardal yn beryglus.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn gyflawn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb manylach i Miss F o fewn 4 wythnos.