Cwynodd Miss S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w negeseuon ebost ynghylch ymddygiad gweithiwr meddygol proffesiynol.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd fynd i’r afael â’r materion a godwyd ganddi oherwydd bod ysbyty a oedd wedi cau wedi rhoi pwysau eithafol ar ei staff. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss S. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss S, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi ac i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd ganddi.