Dyddiad yr Adroddiad

09/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507027

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs W nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’w chŵyn fod y Bwrdd Iechyd wedi rhagnodi meddyginiaeth yr oedd ganddi alergedd iddi.

Canfu’r Ombwdsmon fod mwy na 6 mis wedi mynd heibio ers i Mrs W gyflwyno ei chŵyn ac nad oedd wedi cael ymateb gan y Bwrdd Iechyd o hyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs W a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mrs W am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn iddi o fewn 6 wythnos.