Cwynodd Mr A na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb i’w gŵyn ynglŷn â’r driniaeth a’r gofal a gafodd ei ddiweddar fam.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 11 mis yn ôl ac nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’r gŵyn o hyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 6 wythnos, yn ymddiheuro ac yn esbonio’r rhesymau dros yr oedi, yn darparu ymateb llawn i’r gŵyn, ac yn cynnig iawndal o £100 i Mr A.