Dyddiad yr Adroddiad

11/12/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202506102

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms K nad oedd Cymdeithas Tai Newydd (“y Gymdeithas Dai”) wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am aflonyddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol dros gyfnod o 5 mlynedd.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms K wedi cwyno i’r Gymdeithas Tai ac er bod rhai materion mwy diweddar wedi cael eu hateb, nid oedd y Gymdeithas Dai wedi mynd i’r afael â chŵyn Ms K am faterion hanesyddol nac wedi rhoi esboniad ynghylch pam na chymerwyd camau ffurfiol pan oedd Ms K wedi rhoi gwybod am niwsans sŵn yn y gorffennol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Gymdeithas Dai, o fewn 1 mis o gyhoeddi’r llythyr penderfyniad, yn:

· Cyhoeddi ymateb arall i’r gŵyn, gan gynnwys adolygiad o gofnodion hanesyddol ac esboniad ynghylch pam na chymerwyd camau ffurfiol ar ôl adroddiadau blaenorol am niwsans sŵn.