Cwynodd Ms A am Gyngor Gwynedd yn bilio’r dreth gyngor ar ail eiddo roedd hi’n berchen arno.
Pan wnaeth yr Ombwdsmon ymholiadau gyda’r Cyngor, fe’i cynghorwyd bod y Cyngor yn datblygu polisi i alluogi trethdalwyr i gyflwyno ceisiadau i’w treth gyngor gael ei lleihau neu ei dileu. Mae’r polisi hwn wedi cael ei gymeradwyo ers hynny. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylid ystyried amgylchiadau Ms A yn unol â’r polisi hwn.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n ysgrifennu at Ms A o fewn 3 wythnos i gadarnhau y byddai’n gwneud y canlynol: gohirio mynd ar drywydd ôl-ddyledion y dreth gyngor nes gellid ystyried y mater o dan y polisi, ystyried yr achos yn ôl ei rinweddau gan ystyried yr amgylchiadau yn unol â’i bolisi, a rhoi gwybod i Ms A am ei benderfyniad.