Cwynodd Miss A a Ms A am benderfyniad Cyngor Sir Penfro i roi caniatâd cynllunio i eiddo cyfagos.
Pan edrychodd yr Ombwdsmon ar y gŵyn, gallai weld bod y Cyngor wedi ystyried rhai o bryderon Miss A a Ms A yng ngham cyntaf ei drefn gwyno, ond ei bod wedi dweud na allai ymchwilio ymhellach gan fod y materion wedi cael eu hystyried o dan brosesau eraill. Er bod gan Miss A a Ms A bryderon ychwanegol, ni chawsant eu codi fel cwynion ffurfiol. Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor adolygu’r pryderon a oedd wedi’u heithrio o’r weithdrefn gwyno a chael cyfle i ymateb i’r pryderon mwy newydd.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Miss A a Ms A o fewn 4 wythnos i gytuno ar gwmpas eu cwyn, wedyn o fewn 4 wythnos arall i roi ymateb ac egluro’n glir a oes unrhyw bryderon y tu allan i gwmpas y weithdrefn gwyno.