Cwynodd Mr B fod cyfathrebu gwael a gofal annigonol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi achosi oedi wrth asesu a thrin sepsis ei wraig, pan gafodd ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â phryderon Mr B yn unol â threfniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn y GIG (‘Gweithio i Wella’). Darparodd y Bwrdd Iechyd a’r gwasanaeth ambiwlans ymatebion ar wahân i gwynion Mr B, a arweiniodd at anghysondebau a hepgoriadau yn y canfyddiadau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gydweithredu â’r gwasanaeth ambiwlans a rhoi ymateb ar y cyd i’r gŵyn o fewn tri mis.