Dyddiad yr Adroddiad

15/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202503714

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi gwybod iddi ei bod wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth i gael pen-glin cyfan newydd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi anfon llythyr at Feddyg Teulu Mrs A, nad oedd wedi rhoi gwybod iddi am y penderfyniad a’r rhesymau pam, yn unol â’r canllawiau ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymddiheuriad ysgrifenedig, o fewn 6 wythnos, ac i roi Mrs A yn ôl ar y rhestr aros yn yr un lle pe na bai wedi cael ei thynnu oddi arni.