Cwynodd Mr C am safon y gofal maeth a ddarparwyd i’w ddiweddar dad, Mr D, pan gafodd ei dderbyn i Ysbyty Ystrad Fawr. Fe wnaeth yr ymchwiliad gan yr Ombwdsmon ystyried y canlynol:
• A oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau priodol i asesu a mynd i’r afael ag anghenion gofal maeth Mr D.
• A oedd atgyfeiriadau priodol ac amserol i’w hadolygu gan Therapi Iaith a Lleferydd, ENT, a/neu ddeieteg er mwyn mynd i’r afael ag anghenion maeth Mr D.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y bu oedi o wythnos cyn atgyfeirio Mr D am adolygiad deietig. Byddai hyn wedi golygu bod modd asesu pa mor ddigonol oedd cymeriant maethol Mr D, ac ystyried bwydo heb fod drwy’r geg yn gynharach. Bu’n anodd dod i’r casgliad y byddai atgyfeiriad cynharach am adolygiad deietegol wedi newid y canlyniad i Mr D. Fodd bynnag, derbyniodd yr Ombwdsmon fod pryder y teulu am reolaeth maethol Mr D a’r ansicrwydd dilynol ynghylch a allai adolygiad deieteg cynharach fod wedi gwella’r canlyniad i Mr D ynddo’i hun yn anghyfiawnder. Felly, cafodd y gŵyn ei chadarnhau i’r graddau cyfyngedig hynny.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i deulu Mr D, a lluniodd gynllun gweithredu i hyrwyddo gwelliant mewn gofal maeth a monitro.