Dyddiad yr Adroddiad

04/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408384

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar dad, Mr B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rhwng 25 a 27 Tachwedd 2024. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a gafodd Mr B ofal amserol a phriodol gan staff yr ysbyty pan oedd yn yr ambiwlans y tu allan i’r Adran Achosion Brys am gyfnod estynedig, ac a gafodd Mr B ofal amserol a phriodol pan gafodd ei drosglwyddo wedyn i’r Adran Achosion Brys.

Er bod oedi yng ngofal Mr B pan oedd yn yr ambiwlans y tu allan i’r Adran Achosion Brys, ac y byddai ymchwiliad cynharach wedi bod yn ddymunol, canfu’r Ombwdsmon na ellid dod i’r casgliad y byddai wedi newid ei ddirywiad, ei reolaeth na’i ganlyniad. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod gofal amserol a phriodol wedi cael ei ddarparu pan gafodd Mr B ei drosglwyddo wedyn i’r Adran Achosion Brys. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.