Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan gyhoeddodd wybodaeth gwrth-Semitaidd ar gyfryngau cymdeithasol a dangos cefnogaeth i sefydliad terfysgol gwaharddedig.
Canfu’r Ombwdsmon fod sylwedd yr honiad yn droseddol ei natur. Penderfynwyd y dylid rhoi’r gorau i’r ymchwiliad, tra’n aros i weld a fydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Heddlu.