Dyddiad yr Adroddiad

14/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Neyland

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202303825/202306824/202307937

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Ymchwiliom i honiadau am yr Aelod gan gynnwys ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor drwy drin a/neu gyfathrebu â Chlerc y Cyngor a chyd-Gynghorwyr dro ar ôl tro mewn modd a oedd yn brin o ran parch ac a oedd yn gyfystyr â bwlio a/neu aflonyddu. Ymhellach, bod ei ymddygiad, o ran y Clerc, ei gyd-Gynghorwyr a’n swyddfa wedi dwyn anfri ar ei swydd a/neu’r Cyngor a’i fod wedi methu â chydymffurfio â’n ceisiadau pan ymchwiliom.

Yn dilyn ein hymchwiliad, penderfynom mai cyfeirio ymddygiad yr Aelod at Banel Dyfarnu Cymru i’w benderfynu oedd yn briodol. Canfu’r Tribiwnlys yn unfrydol fod yr Aelod wedi gweithredu’n groes i’r Cod Ymddygiad. Dywedodd y Tribiwnlys ei bod hi’n anodd dychmygu unigolyn a oedd yn llai addas i fywyd cyhoeddus na’r Aelod oherwydd ei anallu amlwg a mynych i ymddwyn mewn modd sifil, cwrtais a pharchus. Roedd ei ymddygiad tuag at y Clerc a rhai o’i gyd-gynghorwyr yn wael iawn ac nid oedd wedi dangos unrhyw barch at rôl a swyddogaeth ein swyddfa.

Canfu’r Tribiwnlys: fod yr Aelod wedi methu, ar nifer o achlysuron, â thrin y Clerc a’i gyd-gynghorwyr â pharch ac ystyriaeth gan dorri paragraff 4(b) o’r Cod; bod gweithredoedd yr Aelod mewn perthynas â digwyddiadau a gohebiaeth benodol a enwir, yn gyfystyr â bwlio a/neu aflonyddu gan dorri paragraff 4(c) o’r Cod: roedd yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd a/neu ei awdurdod yn groes i baragraff 6(1)(a) o’r Cod ac roedd wedi methu â chydymffurfio â’n ceisiadau pan ymchwilio, yn groes i baragraff 6(2) o’r Cod.

Daeth y Tribiwnlys Achos i’r casgliad, drwy benderfyniad unfrydol, y dylid gwahardd yr Aelod rhag gweithredu fel cynghorydd i unrhyw awdurdod am gyfnod o 4 blynedd mewn perthynas â phob mater ar yr un pryd. Gellir dod o hyd i benderfyniad llawn y Tribiwnlys yma ar wefan Panel Dyfarnu Cymru.

Mae gan y cyn-gynghorydd yr hawl i ofyn i’r llys am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Panel.