Cwynodd Mrs X nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ymateb i’r pryderon a gyflwynodd ynghylch y man gwyrdd ger ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb i’r gŵyn i Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, a fydd hynny hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am beidio ag ystyried y gŵyn drwy’r weithdrefn gwyno a chynnig o daliad iawndal ariannol o £50 am yr amser a’r drafferth.