Cwynodd Ms X fod Cyngor Caerdydd wedi gwrthod uwchgyfeirio ei chŵyn mewn perthynas â’r gwasanaethau gofal a ddarparwyd i’w mam i gam 2 o’i weithdrefn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor yn gallu bwrw ymlaen â’r gŵyn oherwydd diffyg caniatâd gan fam Ms X. Methodd y Cyngor â chydnabod gwendidau mam Ms X er mwyn ymgysylltu’n ystyrlon yn ei weithdrefn gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 1 wythnos, i gydnabod Ms X fel cynrychiolydd i weithredu ar ran ei mam a symud cwyn Ms X ymlaen i gam 2 yn unol â’i weithdrefn gwyno.