Dyddiad yr Adroddiad

20/11/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin

Pwnc

Ceisiadau / dyraniadau / trosglwyddo / cyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202506467

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Wales & West wedi oedi ei gais am gydgyfnewid. Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â hysbysu Mr X o’i hawl i uwchgyfeirio ei gŵyn i gam 2 o’r weithdrefn gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb Ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr X o fewn wythnos am fethu â’i hysbysu am yr hawl i uwchgyfeirio ei gŵyn i gam 2 ac i ystyried ac ymateb i gŵyn Mr X yn unol â gweithdrefn gwyno’r Gymdeithas.