Cwynodd Ms H nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2025, ynghylch y gofal a gafodd ei merch.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms H, methodd â darparu rhesymau dros yr oedi na darparu amserlen ar gyfer y dyddiad ymateb disgwyliedig. Achosodd hyn rwystredigaeth ychwanegol i Ms H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb i’r gŵyn o fewn wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi.