Dyddiad yr Adroddiad

17/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morganwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202506271

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Cyngor Bro Morganwg wedi methu â darparu ymateb i gŵyn cam 2.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi darparu ymateb i gŵyn cam 1, nad oedd wedi hysbysu’r achwynydd o’i hawl i fynd â’r mater ymlaen i’r weithdrefn cam 2. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 1 wythnos, i hysbysu Mrs X y bydd y Cyngor yn dechrau ystyried ei chŵyn o dan y weithdrefn cam 2 a’i hysbysu y bydd ymateb yn cael ei gyhoeddi o fewn 7 wythnos. Cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn 7 wythnos, i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn cam 2 a fydd yn cynnwys manylion pa gamau a gymerir, ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi ac am beidio â hysbysu Mrs X o’i hawl i uwchgyfeirio’r mater a chynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi.