Cwynodd Dr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’w chŵyn mewn perthynas â’i fethiant i sicrhau diogelwch a chywirdeb priodol ei chofnodion.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chywiro’r mater a nodwyd gan Dr X pan gafodd ei godi gyntaf ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Dr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Byrddau Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad am beidio â chywiro’r mater pan gafodd ei godi gyntaf ym mis Chwefror 2025.