Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch y driniaeth a gafodd ar ei goesau.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ystyried y gŵyn fel datrysiad cynnar, nad oedd y gŵyn wedi’i hystyried ac nas ymatebwyd iddi drwy’r weithdrefn Gweithio i Wella (PTR). Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad ynghylch pam na chafodd y gŵyn ei hystyried o dan y broses PTR.