Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Chwefror 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb terfynol i’w chŵyn i Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 10 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, a chynnig taliad iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi.