Dyddiad yr Adroddiad

10/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505954

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Ebrill 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol i’w chŵyn
i Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chynnig taliad iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi.